Newyddion & Digwyddiadau
Newyddion Digwyddiadau MP Events
Cysylltwch
Cyfeiriad: Cysylltiadau Cyhoeddus a Digwyddiadau MP,
Acw ,
Creigiau Iocws,
Ffordd Caernarfon,
Pwllheli,
Gwynedd,
LL53 6TT.
Symudol: +44 (0)7831 869857
Ebost: mici@miciplwm.co.uk
Croeso i wefan Cysylltiadau Cyhoeddus a Digwyddiadau MP
Welcome to our website
Croeso i Cysylltiadau Cyhoeddus a Digwyddiadau MP. Sefydlwyd y cwmni gan Mici Plwm yn 2003 gyda'r pwrpas o drefnu a hyrwyddo digwyddiadau cyffrous ar hyd a lled Cymru ac ar draws y byd. Gobeithio y byddwch yn cael y wefan yn llawn gwybodaeth, diddorol a defnyddiol.
Mae’n cynnwys gwybodaeth cynhwysfawr am ein gwasanaethau a manylion cysylltu.
Gan bod Cysylltiadau Cyhoeddus a Digwyddiadau MP yn aelod o'r NOEA a TESA, cyrff anibynnol sydd yn cael eu cydnabod fel trefnwyr digwyddiadau proffesiynol mae'n hawdd gweld bod ansawdd ein gwaith yn uchel ac yn broffesiynnol.
Amdanom Ni
Mae gwarant rhagoriaeth Cysylltiadau Cyhoeddus a Digwyddiadau MP yn cynnwys nifer o wasanaethau a chynnyrch yn cynnwys: Cynadleddau a seminarau, rheolaeth digwyddiadau ac arddangosfeydd, digwyddiadau corfforaethol, lawnsio cynnyrch, seremonïau gwobrwyo, hyrwyddo, adloniant a llawer mwy…
Mae Cysylltiadau Cyhoeddus a Digwyddiadau MP yn aelod o'r NOEA a TESA, cyrff annibynnol a gydnabyddir fel trefnwyr digwyddiadau proffesiynol. Oherwydd hyn gall ein holl gleientiaid fod yn sicr o safon uchel a phroffesiynoldeb ein gwaith.
Diolch am alw draw, a chofiwch os oes gennych unrhywbeth i'w drefnu ac am gael graen arnynt cysylltwch â ni.